Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch ihttp://www.openoffice.org/welcome/readme.html
Annwyl Ddefnyddiwr
Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch y rhaglen hon. Darllenwch y wybodaeth yn ofalus iawn cyn cychwyn gweithio.
Hoffai cymuned OpenOffice.org, sy'n gyfrifol am ddatblygiad y cynnyrch hwn eich gwahodd i gymryd rhan fel aelod cymunedol. Fel defnyddiwr newydd, ewch i safle OpenOffice.org am wybodaeth defnyddiwr defnyddiol yn
http://www.openoffice.org/about_us/introduction.html
Darllenwch hefyd yr adrannau isod ynglŷn ag ymuno â phroject OpenOffice.org
Mae OpenOffice.org yn rhydd ac yn rhad ar gyfer pawb. Gallwch gymryd y copi yma o OpenOffice.org a'i osod ar gynifer o gyfrifiaduron ag yr hoffech chi a'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas (gan gynnwys defnydd masnachol, llywodraeth, busnes, addysg a phersonol). Am fanylion pellach darllenwch y drwydded sy'n dod gyda OpenOffice.org neu http://www.openoffice.org/license.html
Gallwch ddefnyddio'r copi yma o OpenOffice.org heddiw, am ddim, oherwydd bod cyfranwyr unigol a noddwyr masnachol wedi cynllunio, datblygu, profi cyfieithu, dogfennu, cefnogi, masnachu a chynorthwyo mewn llawer o ffyrdd i wneud OpenOffice.org yr hyn ydyw heddiw - prif feddalwedd cod agored y byd.Os ydych yn gwerthfawrogi eu hymdrechion, ac am sicrhau fod OpenOffice.org yn parhau i'r dyfodol, ystyriwch gyfrannu i'r cynllun, gw.http://contributing.openoffice.orgam fanylion. Mae gan bawb gyfraniad i'w wneud.
Anghenion y System:
Mae yna ystod eang o ddosbarthiadau o Linux, ac o fewn yr un dosbarthiad ceir dewisiadau gosod gwahanol (KDE neu Gnome),ag ati) Mae rhai dosbarthiadau yn cael eu dosbarthu gyda fersiwn 'cynhenid' o OpenOffice.org, sydd â nodweddion gwahanol i'r fersiwn OpenOffice.org Cymunedol hwn. Weithiau gallwch osod y fersiwn Cymunedol o OpenOffice.org wrth ochr y fersiwn 'cynhenid'. Er hynny, mae fel arfer yn fwy diogel i dynnu'r fersiwn 'cynhenid' cyn gosod y fersiwn Cymunedol. Darllenwch y ddogfennaeth am fanylion ar sut i wneud hynny.
Argymellir eich bod yn gwneud copi wrth gefn o'ch system cyn tynnu neu osod meddalwedd.
Dim ond bysellau (cyfuniad bysellau) nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y system weithredu mae modd eu defnyddio yn OpenOffice.org. Os nad yw cyfuniad bysellau'n gweithio fel y disgrifir yn Cymorth OpenOffice.org, gwiriwch fod y llwybr byr yn cael ei ddefnyddio eisoes gan y system. I gywiro'r gwrthdaro, mae modd newid y bysellau neilltuwyd gan eich system weithredu. Fel arall, mae modd newid bron unrhyw un o fysellau neilltuwyd ganOpenOffice.org. Am ragor o wybodaeth ar y pwnc, ewch i Cymorth OpenOffice.org neu ddogfennaeth Cymorth eich system weithredu.
Oherwydd gwrthdaro gyda newid y dull mewnbynnu ar blatfformau gwahanol, mae angen newid yr allweddi llwybr byr canlynol ar y funud olaf:
Yn y gosodiad rhagosodedig, mae cloi ffeiliau wedi ei droi ymlaen yn OpenOffice.org. I'w atal, rhaid gosod yr amrywiolion amgylcheddol priodol SAL_ENABLE_FILE_LOCKING=0 ac allforio SAL_ENABLE_FILE_LOCKING. Mae'r confodion hyn wedi eu galluogi yn ffeil sgript soffice.
Rhybudd: Mae'r nodwedd cloi ffeiliau yn medru achosi anawsterau gyda Solaris 2.5.1 a 2.7 mewn cysylltiad â Linux NFS 2.0. Os yw eich system yn meddu'r paramedrau hyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn peidio defnyddio cloi ffeiliau. Fel arall, bydd OpenOffice.org yn atal wrth i chi geisio agor ffeil o gyfeiriadur gosodedig NFS ar gyfrifiadur Linux.
Am wybodaeth am nodweddion hygyrchedd OpenOffice.org, gweler http://www.openoffice.org/access/.
Cymrwch ychydig o amser i lanw'r broses Cofrestru Cynnyrch byr wrth i chi osod y feddalwedd. Er bod cofrestru'n ddewisol, rydym yn eich annog i gofrestru gan fod y wybodaeth yn galluogi'r Gymuned i greu meddalwedd gwell ac ateb anghenion y defnyddiwr yn uniongyrchol. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae Cymuned OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat. Os aethoch heibio i'r cofrestru wrth osod y feddalwedd, mae modd dychwelyd a chofrestru ar unrhyw adeg drwy ddewis "Cymorth > Cofrestru" o'r brif ddewislen.
Mae yna hefyd Arolwg Defnyddiwr ar-lein hoffwn eich annog i'w lanw. Mae canlyniadau'r Arolwg Defnyddiwr yn cynorthwyo OpenOffice.org i symud ynghynt wrth osod safonau newydd ar gyfer creu'r genhedlaeth nesaf o raglenni swyddfa. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat.
Mae'r prif dudalen cefnogaethhttp://support.openoffice.org/yn cynnig amryw o bosibiliadau ar gyfer cynorthwyo gyda OpenOffice.org. Mae'n bosib bod eich cwestiwn eisoes wedi ei ateb - ewch i'r Fforwm Cymunedol.http://user.services.openoffice.orgneu chwilio archifau rhestr e-bostio 'users@openoffice.org' sydd ynhttp://www.openoffice.org/mail_list.html. Fel arall, gallwch anfon eich cwestiynnau atusers@openoffice.org. Fel arall, gallwch anfon eich cwestiynau athttp://wiki.services.openoffice.org/wiki/Website/Content/help/mailinglists.
Gwiriwch yr adran FAQ ynhttp://wiki.services.openoffice.org/wiki/Documentation/FAQ.
Mae Gwefan OpenOffice.org yn cynnal IssueZilla, ein peirianwaith ar gyfer adrodd ar , dilyn a datrys gwallau a materion. Rydym yn annog pob defnyddiwr i deimlo'n rhydd a bos croeso i adrodd ar faterion sy'n codi ynghylch eich problem benodol. Mae adrodd egniol yn un o'r prif gyfraniadau gall cymuned ddefnyddwyr ei wneud ar gyfer datblygiad parhaus a gwelliant parhaol casgliad rhaglenni OpenOffice.org.
Hoffai Cymuned OpenOffice.org fanteisio ar eich ymwneud gweithgar yn natblygiad y project cod agored hwn.
Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn rhan werthfawr o ddatblygiad y pecyn a hoffwn eich annog yn gryf i gymryd mwy o ran gyda golwg ar fod yn gyfranogwr tymor hir i'r gymuned. Ymunwch a darllenwch dudalennau defnyddwyr yn:http://www.openoffice.org
Y ffordd orau i gyfrannu yw drwy danysgrifio i un neu fwy o'r rhestr e-bostio am gyfnod, ac yn raddol ddefnyddio'r archifau e-bost i ddod i adnabod yr amryw o destunau sydd wedi eu trin ers i god ffynhonnell OpenOffice.org gael ei ryddhau nôl yn Hydref 2000. Pan rydych yn barod, dim ond anfon e-bost o gyflwyniad ac ymuno! Os ydych yn gyfarwydd â Phrojectau Cod Agored, ewch i'n rhestrau To-do a gweld os oes yna rywbeth hoffech chi gynnig helpu gydag ef.http://development.openoffice.org/todo.html.
Dyma rai o restrau e-bostio'r Project gallwch danysgrifio iddynt ynhttp://www.openoffice.org/mail_list.html
Mae modd i chi wneud cyfraniad sylweddol i'r project cod agored pwysig hwn hyd yn oed os mai dim ond profiad bychan o gynllunio meddalwedd neu godio sydd gennych. Ie, chi!
Ynhttp://projects.openoffice.org/index.htmlCewch ddod o hyd i brojectau yn ymestyn o Leoleiddio, Portio a Grwpwar i brojectau codio sylfaenol iawn. Os nad ydych yn ddatblygwr, ewch at y Project Dogfennaeth neu Farchnata. Mae'r Project Marchnata OpenOffice.org yn defnyddio dulliau guerilla a thechnegau marchnata traddodiadol i farchnata cynnyrch cod agored, ac rydym yn ei wneud ar draws ffiniau ieithoedd a diwylliannau, felly gallwch helpu drwy son am y gwaith a dweud wrth eich ffrindiau am y rhaglen.
Gallwch helpu drwy ymuno a'r Rhwydwaith Marchnata Cyfathrebu a Gwybodaeth yma:http://marketing.openoffice.org/contacts.html lle gallwch gynnig pwynt cyfathrebu gyda'r wasg, cyfryngau, asiantaethau'r llywodraeth, ymgynghorwyr, ysgolion, Grwpiau Defnyddwyr Linux a datblygwyr yn eich gwlad a'ch cymuned leol.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweithio gyda OpenOffice.org 3.2 ac y gwnewch ymuno gyda ni ar-lein.
Cymuned OpenOffice.org
Darnau Hawlfraint 1998, 1999 James Clark. Darnau Hawlfraint 1996, 1998 Netscape Communications Corporation.